Beth gewch chi ei roi yn eich cadi gwastraff bwyd?
Gallwch roi unrhyw fwyd sy’n amrwd neu wedi ei goginio yn eich cadi gwastraff bwyd, yn cynnwys:
- Bagiau te a gwaddod coffi
- Cig, yn cynnwys esgyrn a charcasau
- Cynnyrch becws
- Ffrwythau a llysiau yn cynnwys crafion, coesau a sbarion
- Plisg/Masglau wyau
- Pysgod a bwyd môr – y cig, y croen, yr esgyrn a'r cregyn
- Cynnyrch llaeth
- Bwyd cŵn, cathod, adar, cwningod a moch cwta
- Braster ac olew coginio
- Papur cegin ag ychydig o fraster ac olew arno
- Unrhyw sbarion eraill - wedi’u coginio neu heb eu coginio.
Beth na chewch chi ei gynnwys?
Ni ddylech roi’r pethau a ganlyn yn eich cadi gwastraff bwyd:
- Hancesi papur
- Papur cegin
- Deunydd pecynnu bwyd
- Ymgarthion (baw) anifeiliaid na phobl
- Blodau na dail a thyfiant (mae'n well rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff gardd)
Dylid rhoi’r eitemau hyn yn eich bin ailgylchu neu’ch bin sbwriel fel sy’n briodol.
Casglu Gwastraff Bwyd o Ochr y Ffordd
Caiff eich gwastraff bwyd ei gasglu o’ch cadi ochr-y-ffordd bob wythnos.
Bydd angen i’r cadi fod ar y palmant cyn 6:00am ar fore’r casgliad ond gofynnir i chi beidio â’i roi allan cyn 4:30pm y diwrnod cynt. Cynhelir y casgliadau trwy’r dydd o 6am tan 10pm.
Cewch wybod yma pa ddiwrnod y cesglir eich gwastraff bwyd:
Sut i ddefnyddio’ch cadi:
- Defnyddiwch y bag cadi pwrpasol i leinio’ch cadi cegin
- Tynnwch yr holl ddeunydd pacio a lapio oddi ar y bwyd cyn ei roi yn eich cadi
- Pan fydd y bag yn llawn, clymwch ef yngháu, a'i roi yn y cadi ochr-y-ffordd sy'n fwy o faint
- Rhowch y cadi ochr-y-ffordd ar y palmant mewn pryd ar gyfer eich casgliad wythnosol
- Peidiwch â defnyddio bagiau plastig na'r biofagiau gwyn i leinio'ch cadi ochr-y-ffordd
- Peidiwch â rhoi gwastraff bwyd yn rhydd yn y cadi ochr-y-ffordd. Defnyddiwch y bag cadi.
Cael Cadis a Bagiau Newydd:
Mae’n dweud ar wefan eich awdurdod lleol sut i gael cadi cegin neu gadi ochr-y-ffordd newydd neu ragor o fagiau: