Gwastraff Bwyd


Beth gewch chi ei roi yn eich cadi gwastraff bwyd?

Gallwch roi unrhyw fwyd sy’n amrwd neu wedi ei goginio yn eich cadi gwastraff bwyd, yn cynnwys:

  • Bagiau te a gwaddod coffi
  • Cig, yn cynnwys esgyrn a charcasau
  • Cynnyrch becws
  • Ffrwythau a llysiau yn cynnwys crafion, coesau a sbarion
  • Plisg/Masglau wyau
  • Pysgod a bwyd môr – y cig, y croen, yr esgyrn a'r cregyn
  • Cynnyrch llaeth
  • Bwyd cŵn, cathod, adar, cwningod a moch cwta
  • Braster ac olew coginio
  • Papur cegin ag ychydig o fraster ac olew arno
  • Unrhyw sbarion eraill - wedi’u coginio neu heb eu coginio.

Beth na chewch chi ei gynnwys?

Ni ddylech roi’r pethau a ganlyn yn eich cadi gwastraff bwyd:

  • Hancesi papur
  • Papur cegin
  • Deunydd pecynnu bwyd
  • Ymgarthion (baw) anifeiliaid na phobl
  • Blodau na dail a thyfiant (mae'n well rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff gardd)

Dylid rhoi’r eitemau hyn yn eich bin ailgylchu neu’ch bin sbwriel fel sy’n briodol.


Casglu Gwastraff Bwyd o Ochr y Ffordd

Caiff eich gwastraff bwyd ei gasglu o’ch cadi ochr-y-ffordd bob wythnos.

Bydd angen i’r cadi fod ar y palmant cyn 6:00am ar fore’r casgliad ond gofynnir i chi beidio â’i roi allan cyn 4:30pm y diwrnod cynt. Cynhelir y casgliadau trwy’r dydd o 6am tan 10pm.

Cewch wybod yma pa ddiwrnod y cesglir eich gwastraff bwyd:

Caerdydd
Bro Morgannwg


Sut i ddefnyddio’ch cadi:

  • Defnyddiwch y bag cadi pwrpasol i leinio’ch cadi cegin
  • Tynnwch yr holl ddeunydd pacio a lapio oddi ar y bwyd cyn ei roi yn eich cadi
  • Pan fydd y bag yn llawn, clymwch ef yngháu, a'i roi yn y cadi ochr-y-ffordd sy'n fwy o faint
  • Rhowch y cadi ochr-y-ffordd ar y palmant mewn pryd ar gyfer eich casgliad wythnosol
  • Peidiwch â defnyddio bagiau plastig na'r biofagiau gwyn i leinio'ch cadi ochr-y-ffordd
  • Peidiwch â rhoi gwastraff bwyd yn rhydd yn y cadi ochr-y-ffordd. Defnyddiwch y bag cadi.

Cael Cadis a Bagiau Newydd:

Mae’n dweud ar wefan eich awdurdod lleol sut i gael cadi cegin neu gadi ochr-y-ffordd newydd neu ragor o fagiau:

Caerdydd
Bro Morgannwg