Pa wastraff gwyrdd ellir ei ailgylchu?
Rhoddir biniau gwyrdd neu sachau gwastraff gardd amldro ar gyfer gwastraff gardd y gellir ei gompostio. Mae hyn yn cynnwys:
- Glaswellt wedi’i dorri
- Toriadau llwyni
- Toriadau perthi
- Planhigion marw
- Dail
- Blodau
- Chwyn (mae rhai chwyn na allwn eu cymryd, gweler isod)
Mae gan awdurdodau lleol wahanol ofynion ynghylch ailgylchu. Edrychwch i weld pa finiau/sachau a ddefnyddir yn eich ardal chi. Os defnyddiwch y rhai anghywir, efallai na chaiff eich gwastraff gwyrdd ei gasglu.
Beth na chewch chi ei gynnwys?
Peidiwch â defnyddio’ch bin gwyrdd / sachau gwastraff gardd ar gyfer:
- Carpion papur
- Cardfwrdd (o unrhyw fath)
- Eitemau gardd e.e. pibellau dyfrhau, caniau dŵr, dodrefn gardd, teganau gardd nac addurniadau gardd.
- Gwastraff anifeiliaid anwes, eu gwasarn na’u deunydd gwely
- Gwastraff bwyd
- Plastig
- Metal
- Gwydr
- Bagiau plastig
- Rwbel na gwastraff adeiladu
- Lludw
- Potiau planhigion
- Chwyn niweidiol – llysiau’r gingroen/creulys (ragwort), marchysgall (spear thistle), tafol crych (curled dock), dail tafol a chanclwm Japan
- Pren e.e. paneli o siediau, decin, ffensys, delltwaith (trellises)
- Peiriannau torri gwellt neu ddyfeisiau trydan eraill
- Gweddillion nac ymgarthion (baw) anifeiliaid
- Asbestos
Pryd y caiff fy ngwastraff gwyrdd ei gasglu?
Caiff biniau gwastraff gardd gwyrdd a sachau amldro gwastraff gardd eu casglu rhwng 6am a 10pm. I baratoi ar gyfer y casgliad, gofalwch fod eich sach/bin ar y palmant cyn 6.00am ar fore’r casgliad ond nid cyn 4:30pm y diwrnod cynt.
Edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol i weld pryd y cesglir gwastraff gwyrdd. Yn ystod y gaeaf, cynhelir llai o gasgliadau neu cynhelir gwasanaeth ar gais yn unig. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i wefan eich awdurdod lleol trwy ddilyn y dolenni isod.